Croeso i Cyngor Cymuned Pentir

logo Cyngor Cymuned Pentir Croeso i’n gwefan ble cewch drosolwg o waith y Cyngor, cyfarfod eich cynghorwyr ynghyd â dod o hyd i wybodaeth a gwasanaethau lleol a mapiau o lwybrau cyhoeddus y cylch sydd dan ein gofal.

Mae 12 o gynghorwyr ar y Cyngor yn cynrychioli Wardiau Faenol (Penrhosgarnedd, Treborth, Capel Graig, Parc Menai a Fodolydd) a Glasinfryn (Caerhun, Glasinfryn a Phentir). Ymysg cyfrifoldebau’r Cyngor mae cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus y gymuned, arosfannau bws, hysbyfyrddau, cae chwarae Caerhun a Mynwent Pentir. Os hoffech ddwyn materion i sylw’r Cyngor, yna dylid cysylltu â’r Clerc.

Bro Gymraeg yw Cymuned Pentir gyda’r iaith a’r diwylliant yn greiddiol i’w hunaniaeth. Felly, dewch i’r ardal i brofi ein diwylliant unigryw, hanes gyfoethog a golygfeydd ysblennydd. Ni chewch eich siomi.

Hysbysfwrdd

 

Cerwch i’n tudalen NEWYDDION i weld ein newyddion diweddaraf!


13/11/2023 Ward Y Faenol - Sedd wag
Cliciwch yma am dudalen newyddion


27/10/2023 Wars Y Faenol - Sedd wag achlysurol
Cliciwch yma am dudalen newyddion